SL(6)107 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2021
Cefndir a diben
Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 31(1)(a) a pharagraff 27 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Erthygl 5 o Atodiad 15 i'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a'r DU (“CMCh”). Mae Atodiad 15 i'r CMCh yn gwneud darpariaeth ar gyfer masnachu gwin ac mae Erthygl 5 yn darparu ar gyfer mesurau trosiannol sy'n ymwneud â labelu a rhoi ar y farchnad win a gynhyrchwyd cyn dyddiad dod i rym y CMCh. Mae Rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 i sicrhau y gellir parhau i werthu gwin hwnnw.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Senedd ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020. Cytunodd y Pwyllgor mai gweithdrefn negyddol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
13 Rhagfyr 2021